english
Site logo and slogan: ARFOR Creu Gwaith Cefnogi'r Iaith

ARFOR

Mae ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.

Ail wedd ARFOR

Ar 10 Hydref 2022, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y bydd £11 miliwn pellach yn cael ei ddarparu ar gyfer ail wedd ARFOR hyd at diwedd Mawrth 2025.

Bydd y rhaglen yn parhau i weithredu ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, er mwyn:

Cefnogi'r cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyraethau economaidd fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.

Diweddariad

Daeth Rhaglen ARFOR 2 i ben ym mis Mawrth 2025. Mae adroddiad wedi’i baratoi gan Wavehill Cyf i werthuso, monitro a dysgu o ARFOR 2. Ar gyfer eleni, 2025–26, gan adeiladu ar argymhellion adroddiad Wavehill, mae gwaith eisioes mewn llaw i ymgymerid ag ymarfer "oedi a myfyrio" er mwyn helpu llywio’r ffordd ymlaen.

Fel rhan o’r Rhaglen paratowyd Adroddiad Diweddaru Rhaglen yn amlinellu llwyddiannau Rhaglen ARFOR ar draws y Rhanbarth ar gyfer 2024-2025

 

Amcanion strategol Rhaglen ARFOR

  1. Creu cyfleoedd i pobl a teuluoedd ifanc (≤ 35 oed) aros neu i ddychwelyd i’w cymunedau cynhenid - gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy fentro neu ddatblygu gyrfa a sicrhau bywoliaeth sydd yn cyflawni eu dyheadau.
  2. Creu cymunedau mentrus o fewn y fro Gymraeg - drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n anelu i gadw a chynyddu cyfoeth lleol gan fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd.
  3. Uchafu budd gweithgaredd drwy gydweithio - drwy sefydlu meddylfryd dysgu drwy wneud a gwella parhaus, dysgu o weithgaredd o fewn ardaloedd unigol ac yna ei ymestyn, ond gyda teilwra i amgylchiadau lleol.
  4. Cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg - drwy gefnogi defnydd a gwelededd y Gymraeg, annog naws am le a theyrngarwch lleol, ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n gyffredin ar draws yr rhanbarth.

Llwyddo'n Lleol 2050

Un o brosiectau Rhaglen Arfor yw Llwyddo'n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o'r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo'n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid.

Am fwy o wybodaeth ewch i Llwyddo'n Lleol 2050

Monitro, Gwerthuso a Dysgu

Mae Rhaglen ARFOR wedi comisiynu y cwmni ymchwil cymdeithasol ac economaidd, Wavehill, i baratoi y gwaith Monitro, Gwerthuso a Dysgu am ARFOR 2.

Mae'r elfen monitro a gwerthuso yn rhan allweddol o'r rhaglen:

Mae dysgu a lledaenu'r dysgu yn elfennau allweddol pellach gyda'r rhaglen yn ceisio dysgu mwy am y cysylltedd rhwng yr Economi ac Iaith. Mae Arsyllfa_Rural Observatory (mein drafod wledig sy'n edrych ar y materion sy'n wynebu cefn gwlad Cymru, yr economi wledig a'r cymunedau sy'n ei ffurfio) yn gweithredu fel y prif lwyfan ar gyfer rhannu'r dysgu. Mae erthyglau, blogiau ac eitemau ymchwil allweddol o wefan Arsyllfa i'w gweld yma: https://www.arsyllfa.cymru/cy/category/arfor-cy/

Cymunedau Mentrus - Cronfa Cefnogaeth Rhaglen ARFOR

Mi roedd y gronfa yn targedu mentrau masnachol, cymdeithasol a chydweithredol sydd yn anelu at gadw a chynyddu cyfoeth yn lleol mewn ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin (rhanbarth ARFOR).

Mae’r Gronfa wedi cefnogi prosiectau sy’n:

Gwedd gyntaf ARFOR

Yn 2019, yn dilyn cytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, darparwyd £2 miliwn i Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i dreialu dulliau arloesol o gefnogi'r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg hyd at Mawrth 2021.

Roedd y gweithgaredd yn cynnwys:

Ymhlith canlyniadau gwedd gyntaf y Rhaglen dyma:

Mae mwy o wybodaeth am y gweithgaredd a'r canlyniadau ar gael o:

Crynodeb Gweithredol Gwerthusiad o'r Rhaglen ARFOR - Wavehill Cyf., Hydref 2021

Gwerthuso, Casgliadau ac Argymhellion Rhaglen ARFOR - Wavehill Cyf., Hydref 2021

Adroddiad Interim: llunio strategaeth datblygu ar gyfer y dyfodol - Wavehill Cyf., Chwefror 2021

Addewidion Busnes

  1. Disgwylir bod unrhyw un sy'n derbyn cefnogaeth yn ystyried llofnodi'r Addewid Twf Gwyrdd
  2. Disgwylir bod unrhyw un sy'n derbyn cefnogaeth yn ystyried llofnodi'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
  3. Disgwylir bod unrhyw un sy'n derbyn cefnogaeth yn ystyried llofnodi'r Addewid Cydraddoldeb | Busnes Cymru (gov.wales)

Dewch i gyswllt!

gwybodaeth@rhaglenarfor.cymru

Logo: Cyngor Sir Ceredigion County CouncilLogo: Cyngor GwyneddLogo: Cyngor Sir Gâr Carmarthenshire County CouncilLogo: Cyngor Sir Ynys Môn Isle of Anglesey County Council
Logo: Ariennir gan Llywodraeth Cymru Funded by Welsh Government